10/10/2026
🏴 Dewch i gwrdd â Sion Eifion.
Nesaf yn ein cyfres 'cwrdd â'r tîm' mae Sion Eifion sydd wedi bod yn gweithio yn y garej ers 18 mlynedd, ers iddo adael Ysgol Dyffryn Nantlle.
Aeth wedyn ymlaen i astudio yng Ngholeg Rhyl Llandrillo lle bu'n treulio 4 diwrnod yn y garej ac 1 diwrnod yn y coleg am 3 blynedd yn astudio cwrs mecanic cerbydau modur.
Gan iddo ddangos diddordeb yn gynnar mewn bywyd mewn ceir a thryciau oherwydd dylanwadau ei deulu, mae wedi bod yn ymdrin â cheir ers yn ifanc iawn, a bu iddo gystadlu yn ei gystadleuaeth rali gyntaf yn 17 oed.
Sion yw llaw dde Arwyn a phan fydd ef i ffwrdd o'r safle neu ar wyliau Sion sydd yn cymryd rheolaeth o rediad dyddiol y garej yn unol â safonau Arwyn, ac mae'n gwneud hynny’n arbennig!
Mae Sion wedi gwneud llawer o gyrsiau ac ennill nifer o gymwysterau ers iddo ymuno â ni, gan eu hysgwyddo dros y blynyddoedd yn ei ffordd broffesiynol a chan arbenigo yn bennaf mewn tracio a mecanyddiaeth gyffredinol. Ei gymwysterau diweddaraf yw cymhwyso i gynnal profion MOT, weldio, tracio ac adfer cerbydau.
Y tu allan i'r garej, mae Sion yn mwynhau treulio amser gyda'i deulu, gan fynd ar wyliau yn eu carafan a threulio penwythnosau allan gyda'i deulu yn yr ardal leol.
Heblaw am ei deulu, ei angerdd arall yw gyrru ceir rali a rasio beiciau modur. Mae wedi ennill llawer o wobrau dosbarth yn ei Peugeot 206 GTI presennol a'r cerbydau blaenorol sydd wedi bod ganddo, wrth gystadlu mewn ralïau ffordd a targa.
Mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu gyda'i deulu a'i ffrindiau mewn digwyddiadau rali pan nad yw'n cystadlu, neu pan mae'n gwylio ei wraig Sian yn cystadlu yn ei char ei hun (Nissan Micra), gan ei gefnogi gyda'r plant ar y llinellau ochr.
Mae Sion yn aelod gwerthfawr ac allweddol o'r tîm, ac mae bob amser yn hapus i helpu ei gydweithwyr a'i gwsmeriaid pan fyddant yn galw heibio gyda phroblemau neu gwestiynau. Mae’n berson annwyl a charedig iawn ac yn hynod broffesiynol.
Rydym yn ffodus iawn o'i gael gyda ni yn Garej Arwyn- un da ‘di Sion Eifion!
------------------------------------------------------------
👨🔧 Meet Sion Eifion.
Next up in our meet the team series is Sion Eifion, who has been with the garage for 18 years since he left Ysgol Dyffryn Nantlle and went on to College Rhyl Llandrillo where he did 4 days at the garage and 1 day at college for 3 years studying motor vehicle mechanic course.
Interested early on in life with cars & trucks through his family influences, has been tinkering with cars from an early age, he had competed in his first car rally competition at the age of 17.
Sion is Arwyn's right-hand man, and when he's away from the site or on holiday, Sion takes charge of the garage's day-to-day running in line with Arwyn's standards, and he does so exceptionally well!
Sion has completed many courses and gained several qualifications since joining us, applying them over the years in his professional capacity and specialising mainly in vehicle tracking and general mechanics. His most recent qualifications are in carrying out MOT tests, welding & tracking.
Outside of the garage Sion enjoys spending his time with his family going on holidays in their caravan and weekends out with his family around the local area.
Away from his family, his other passion is rally driving and motor bike enduro. He’s won many class awards in his current Peugeot 206 GTI and previous vehicles he has owned competing in road & targa rallies’.
He also likes socialising with his family and friends at rally events when he is not competing, or when he’s watching his wife Sian competing in her own car (Nissan micra) rooting for her with the kids on the side lines.
Sion is a valued and key member of the team, always happy to help his colleagues and customers when they pop in with issues or questions. Sion is a very kind and caring person and extremely professional.
We're very lucky to have him with us at Arwyn Garage.