23/06/2026
Mae’r tywydd poeth yn wych ar gyfer cynhaeaf gwair a mwynhau gwyliau, ond mae hefyd yn golygu mwy o brysurdeb yma yn Teiars Saracens.
Mae’n un o’r cyfnodau prysuraf o’r flwyddyn:
🚜 Mae’r galw amaethyddol yn cynyddu wrth gynaeafu
🚐 Mae mwy o garafanau yn cael eu paratoi ar gyfer gwyliau
🚗 Mae teithio haf yn golygu gwirio teiars munud olaf
Rydym yn gofyn yn garedig i gwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw lle bo modd.
Os ydych chi’n gwybod y bydd angen teiars (neu batris) arnoch ar gyfer eich car, fan, carafán, trelar neu beiriannau amaethyddol, peidiwch â gadael hi tan y funud olaf. Mae stoc yn symud yn gyflym a’n safleoedd yn brysur!
I’n cwsmeriaid ffermio: os ydym yn dod i’r buarth atoch, mae mynediad at gysgod lle bo modd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n staff sy’n gweithio mewn amodau poeth iawn.
Yn Saracens, rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf, ond mae hynny’n bosibl oherwydd y tîm gwych sydd gennym y tu ôl i’r gwaith.
Mae iechyd, diogelwch a lles ein staff yn dod gyntaf.
Mae ychydig o gynllunio ymlaen llaw, amynedd a dealltwriaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu’r gwasanaeth rydych yn dibynnu arno.
Mae diodydd oer wastad yn cael eu gerthfawrogi 😄
Cadwch yn saff, gwiriwch bwysedd eich teiars (gan fod tywydd poeth yn gallu effeithio arnynt), a chadwch lygad ar y tread a’r wal ochr cyn teithiau hir.